Efo systemau zSeries, rhaid i unrhyw ddyfais FCP (protocol Sianel Ffeibr) gael ei chofnodi â llaw er mwyn i'r rhaglen arsefydlu adnabod y caledwedd. Mae'r gwerthoedd a roddir yma yn unigryw i bob un safle lle maent yn cael eu defnyddio.
Dylai pob gwerth a roddir gael ei ailwirio, oherwydd gall camgymeriad achosi'r system i beidio â gweithio yn gywir.
Am fwy o wybodaeth ar y gwerthoedd yma, cyfeiriwch i'r ddogfennaeth galedwedd a ddaeth gyda'ch system, a gwiriwch gyda'r gweinyddwr system sydd wedi cyflunio'r rhwydwaith ar gyfer y sytem yma.