Cyfluniad Mur Cadarn

Eistedda mur cadarn rhwng eich cyfrifiadur â'r rhwydwaith, a penna ba adnoddau ar eich cyfrifiadur y gall defnyddwyr pell ar y rhwydwaith eu cyrchu. Gall mur cadarn wedi'i gyflunio'n gywir godi diogelwch syth-o'r-blwch eich system yn helaeth.

Dewiswch y lefel diogelwch priodol ar gyfer eich system.

Dim Mur Cadarn — Darpera dim mur cadarn gyrchiant hollol i'ch system ac ni wna unrhyw wirio diogelwch. Analluogi cyrchiad i wasanaethau penodol yw gwirio diogelwch. Dylid dewis hwn os ydych yn rhedeg ar rwydwaith ymddiriedig (nid y Rhyngrwyd) yn unig, neu os ydych yn bwriadu gwneud rhagor o gyflunio mur cadarn nes ymlaen.

Galluogi mur cadarn — Os dewiswch Galluogi mur cadarn, ni dderbynir cysylltiadau gan eich system (heblaw am y gosodiadau rhagosodedig) nad ydynt wedi'u penodi'n uniongyrchol ganddoch chi. Yn ragosodedig, dim ond cysylltiadau'n ymateb i geisiau anfonedig, megis atebion DNS neu geisiau DHCP, a ganiateir. Os oes angen cyrchiad i wasanaethau sy'n rhedeg ar y peiriant yma, gallwch ddewis caniatáu gwasanaethau penodol drwy'r mur cadarn.

Os ydych yn cysylltu'r system â'r Rhyngrwyd, ond na'ch bod yn bwriadu rhedeg gweinydd, dyma'r dewis mwyaf diogel.

Yn nesaf, dewiswch pa wasanaethau, os o gwbl, dylid eu caniatáu i dreiddio'r mur cadarn.

Bydd galluogi'r dewisiadau yma'n caniatáu i'r gwasanaethau penodedig i dreiddio'r mur cadarn. Noder, gall na bod y gwasanaethau yma wedi'u arsefydlu ar y system yn ragosodedig. Sicrhewch eich bod yn dewis galluogi unrhyw ddewisiadau gallwch eu hangen.

SSH — Casgliad o erfynnau ar gyfer mewngofnodi i beiriant pell a gweithredu gorchmynion arno yw'r Plisgyn Diogel (Secure SHell (SSH)). Os ydych yn bwriadu defnyddio erfynnau SSH i gyrchu'ch peiriant drwy fur cadarn, galluogwch y dewisiad yma. Mae angen bod gennych y pecyn openssh-server yn arsefydlog er mwyn cyrchu'ch peiriant o bell, drwy erfynnau SSH.

WWW (HTTP, HTTPS) — Defnyddir y protocol HTTP ac HTTPS gan Apache (a gan weinyddion gwe eraill) i weini tudalennau gwe. Os ydych yn bwriadu rhoi'ch gweinydd Gwe ar gael i'r cyhoedd, galluogwch y dewisiad yma. Nid oes angen y dewisiad yma ar gyfer gweld tudalennau'n lleol, nag ar gyfer datblygu tudalennau gwe. Rhaid i chi arsefydlu'r pecyn httpd os ydych am weini tudalennau gwe.

Trosglwyddiad Ffeil (FTP) — Defnyddir y protocol FTP i drosglwyddo ffeiliau rhwng peiriannau ar rwydwaith. Os ydych yn bwriadu rhoi'ch gweinydd FTP ar gael i'r cyhoedd, galluogwch y dewisiad yma. Rhaid i chi arsefydlu'r pecyn vsfypd i'r dewis yma fod yn ddefnyddiol.

Post (SMTP) — Os ydych am ganiatáu danfon post i mewn drwy'ch mur cadarn, fel y gall gwesteiwyr pell gysylltu'n uniongyrchol â'ch peiriant i ddanfon post, galluogwch y dewisiad yma. Nid oes rhaid i chi alluogi hwn os ydych yn casglu'ch post oddiwrth gweinydd eich ISP drwy POP3 neu IMAP, neu os ydych yn defnyddio erfyn megis fetchmail. Noder gall gweinydd SMTP sydd wedi'i gyflunio'n anghywir ganiatáu i beiriannau pell ddefnyddio'ch gweinydd i anfon sgrwtsh.

Yn ychwanegol, fe allwch chi nawr newid hoffterau SELinux (Linux Diogelwch Cryfach) yn ystod eich gosodiad.

Mae gweithrediad SELinux yn @RHL@ wedi'i gynllunio i wella diogelwch amryw o ellyllau, tra'n lleihau'r ardrawiad ar weithredoedd dyddiol eich system.

Mae tri chyflwr ar gael i chi yn dewis yn ystod y broses arsefydlu:

Anweithredol — Dewiswch Anweithredol os nad ydych eisiau rheolau diogelwch SELinux wedi'u galluogi ar y system yma. Mae'r gosodiad Anweithredol yn troi gorfodaeth i ffwrdd ac yn peidio setio'r peiriant i fyny ar gyfer defnyddio polisi diogelwch.

Rhybyddio — Dewiswch Rhybyddio i gael eich hysbysu am unrhyw wrthodion. Mae'r cyflwr Rhybyddio yn neulltuo label i data a rhaglenni, ac yn eu cofnodi, ond dydi hi ddim yn gorfodi unrhyw polisïau. Mae'r cyflwr Rhybyddio yn fan cychwyn da i ddefnyddwyr sydd am bolisi gweithredol llawn SELinux yn y dyfodol, ond sydd yn gyntaf am weld pa effeithiau bydd y polisi yn cael ar weithredoedd arferol y system. Nodwch y bydd defnyddwyr sy'n dewis Rhybyddio yn gweld rhai cofnodion positif a negatif.

Gweithredol — Dewiswch Gweithredol os ydych eisiau i SELinux weithredu mewn ffordd llawn weithredol. Mae'r cyflwr Gweithredol yn gorfodi pob polisi, er enghraifft trwy wrthod cyrchiad i ddefnyddwyr hebddynt ganiatâd i'w cyrchu, er mwyn diogelu'r system ymhellach. Dewiswch y cyflwr yma dim ond os ydych yn sicr y bydd eich system yn medru gweithredu gyda SELinux yn weithredol.