Drwy weithredu uwchraddiad, gallwch fudo (neu drosi) eich system ffeil ext2 cyfredol i system ffeil ext3. Bydd y weithred hon yn cadw'ch ffeiliau cyfredol.
Mantais mudo i ext3 yw bydd gennych alluoedd system ffeil ddyddlyfru. Nid oes rhaid fsckio'r system ffeil ext3 wedi ailgychwyn annisgwyl, yn wahanol i'r system ffeil ext2. Gall hyn leihau'n helaeth y cyfnod amser y cymerir i'r system ailgychwyn a bod yn barod i'w defnyddio.
Argymellir, felly, eich bod yn dewis trosi'ch systemau ffeil.
I wneud hynny, dewiswch y rhaniadau i'w mudo at ext3.
Pan eich bod wedi gorffen, cliciwch ar Nesaf i symud ymlaen.