Uwchraddio Cyfluniad Cychwynnydd

Gellir defnyddio cychwynnydd meddalwedd i ddechrau @RHL@ ar eich cyfrifiadur. Gall hefyd ddechrau sytemau gweithredu eraill, megis Windows 9x. Os ydych yn defnyddio cychwynnydd meddalwedd @RHL@ fe'i canfyddir yn awtomatig.

Dyma'ch dewisiadau:

Diweddaru cyfluniad cychwynnydd — Dewiswch y dewisiad yma i gadw'ch cyfluniad cychwynnydd cyfredol (GRUB neu LILO'n dibynnu ar beth sydd gennych yn arsefydlog yn gyfredol) a gweithredoli diweddariadau.

Hepgor diweddaru cychwynnydd — Dewiswch y dewisiad yma os nad ydych am wneud newidiadau i'ch cyfluniad cychwynnydd cyfredol. Os ydych yn defnyddio cychwynnydd trydydd plaid, byddwch am hepgor diweddaru'ch cychwynnydd.

Creu cyfluniad cychwynnydd newydd — Dewiswch y dewisiad yma os ydych am greu cychwynnydd newydd ar gyfer eich system. Os oes gennych LILO'n gyfredol a rydych am newid at GRUB, neu os ydych wedi bod yn defnyddio disgiau cychwyn i gychwyn eich system @RHL@ ac am ddefnyddio cychwynnydd meddalwedd megis GRUB neu LILO, byddwch am greu cyfluniad cychwynnydd newydd.

Unwaith i chi wneud eich dewis, cliciwch ar Nesaf i barhau.